Dolores Huerta

Dolores Huerta
GanwydFernán Edit this on Wikidata
10 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Dawson Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • San Joaquin Delta College
  • Prifysgol y Môr Tawel
  • Stockton High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethundebwr llafur, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Eleanor Roosevelt Award for Human Rights, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall o Honor y Blaid Lafur, Neuadd Enwogion California, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Dyngarwr y Flwyddyn, Ohtli Award, Radcliffe Medal, Eugene V. Debs Award Edit this on Wikidata

Arweinydd llafur Americanaidd a gweithredwraig hawliau sifil yw Dolores Clara Fernández Huerta (ganwyd yn Dawson, Mecsico Newydd, 10 Ebrill 1930). Dolores Huerta a Cesar Chavez oedd cyd-sylfaenwyr y National Farmworkers Association, a ddaeth yn yr United Farm Workers (UFW) yn ddiweddarach. Bu Huerta'n cynorthwyo i drefnu streic grawnwin Delano yng Nghaliffornia yn 1965 ac yn arwain y trafodaethau ynghylch y cytundeb gweithwyr a grewyd yn dilyn y streic.[1]

Mae Huerta wedi derbyn nifer o anrhydeddau am ei gwaith cymunedol a'i heiriolaeth dros hawliau gweithwyr a menywod, gan gynnwys anrhydedd 'Outstanding American' Ymddiriedolaeth Eugene V. Debs, Anrhydedd Eleanor Roosevelt am Hawliau Sifil[2] a Medal Rhyddid yr Arlywydd.[3] Yn 1993, daeth yn yLatina gyntaf i'w chynnwys yn y National Women's Hall of Fame.[4][5]

Huerta wnaeth gyflwyno'r ymadrodd "Sí, se puede".[6] Fel model rôl i nifer yn y gymuned Latino, mae Huerta yn destun nifer o corridos (baledi) a murluniau.[7]

  1. "Dolores Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd 31 May 2017.
  2. "Biography: Dolores Clara Fernandez Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd July 11, 2018.
  3. "Remarks by the President at Presidential Medal of Freedom Ceremony". Obama White House Archives. May 29, 2012. Cyrchwyd 31 May 2017.
  4. "Meet the 20 MAKERS Inducted Into the National Women's Hall of Fame". Makers. October 5, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-26. Cyrchwyd 31 May 2017.
  5. "Dolores Huerta". The Adelante Movement. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-20. Cyrchwyd 31 May 2017.
  6. "Sí Se Puede". Makers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-25. Cyrchwyd 31 May 2017.
  7. "Dolores Huerta". Gale Group. Cyrchwyd 31 May 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne